Dros y blynyddoedd, mae’r Shed wedi bod yn storfa, yn garej a hyd yn oed yn gartref i drefnwyr angladdau. Mae ei hanes yn gyfoeth o amrywiaeth. Ond ers nifer o flynyddoedd bellach, mae wedi bod yn sefyll yn segur ac yn wag. Bellach, gyda chefnogaeth y gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin, a Grŵp Gweithredu Trigolion Meliden, mae dyfodol Y Shed yn edrych yn wahanol iawn.
Ni fydd yr adeilad bellach yn angof a bydd yn cael ei drawsnewid yn ganolbwynt bywiog ar gyfer y gymuned a thwristiaid gyda chaffi, siop ac arddangosfa hanes. Bydd yn hafan a fydd yn cynnig hoe i gerddwyr fwynhau paned, lle gall teuluoedd hurio beics a mynd ar antur, neu lle gall ffrindiau gwrdd dros ginio. Bydd yr arddangosfa hanes yn rhoi llwyfan i’r pentref a'i straeon i genedlaethau newydd, gan fwrw goleuni ar fywydau trigolion Meliden dros y blynyddoedd. Gan gynnig gofodau gweithio creadigol i fusnesau a chrefftwyr lleol, bydd Y Shed hefyd yn helpu darpar entrepreneuriaid ac artistiaid i ddatblygu eu busnesau o fannau unigryw gyda ffryntiau gwydr sy’n edrych dros olygfa ysbrydoledig yr arfordir.
Y Shed:
Currently open seven days a week
9.00am - 4.00pm
Y Shed Office:
Monday and Sunday - Closed
Tu Mundo Yn Y Shed:
Currently open seven days a week
9.00am - 4.00pm
Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Tu Mundo Yn Y Shed:
E-mail: manager@Tu-Mundo.co.uk
Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122
Podiatry - Lorna Hicks
Ffon - 07720 986707
E-bost - podiatryatdyffryn@btinternet.com
The Trainer Container - Tom
Gwefan - http://www.thetrainercontainer.co.uk
Rough Edge Bakehouse - Matt
Ebost - hello@roughedgebakehouse.co.uk
Gwefan - http://www.roughedgebakehouse.co.uk
Instagram - @roughedgebakehouse