A hithau wedi'i hadeiladu i wasanaethu'r mwyngloddiau a'r chwareli yn y rhan ysblennydd hon o Ogledd Cymru, roedd ffordd Prestatyn-Dyserth ar un adeg yn rheilffordd a ddefnyddiwyd yn helaeth. Ar un adeg, roedd y darn 2 ½ milltir hwn rhwng y bryniau a'r môr yn cludo 16 o drenau teithwyr y dydd. Ar ôl mwy na 100 mlynedd o wasanaeth, aeth y trên olaf ar ei thaith ym 1973 ac ers hynny mae'r hen linell hon wedi troi yn hafan i gerddwyr a beicwyr. Mae mwy na 60,000 o bobl y flwyddyn yn cerdded, yn beicio ac yn rhedeg ar hyd y llwybr cefn gwlad hwn, llwybr sy’n cynnwys Graig Fawr, safle yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac sy’n cynnig golygfeydd rhagorol allan ar draws arfordir Gogledd Cymru. Mae modd ymuno â'r llwybr cerdded o sawl man, i lawr yn nhref farchnad bert Prestatyn neu ym mhentrefi Dyserth a Meliden, lle mae’r Shed wedi'i lleoli.
Gyda golygfeydd dros Fôr Iwerddon, mae digon o fannau ar hyd y lein i gymryd sedd, gorffwys coesau blinedig a mwynhau’r olygfa. Ar ddiwrnod clir, gellir gweld Ynys Manaw, Blackpool, a thref Llandudno yn y pellter ac rydych chi wastad mewn cwmni da gyda’r holl fywyd gwyllt sydd o’ch cwmpas.
Ar agor saith diwrnod yr wythnos
9.00am - 5.00pm
Ffôn: 01745 855859
E-bost: y-shed@tu-mundo.co.uk
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY