Mae’r Shed wrth galon Meliden. Os yw’r pentref yn fach o ran maint, nid felly o ran hanes.
Gan gymryd ei henw gan Sant Melyd, Esgob cyntaf Llundain yn y 7fed Ganrif, mae gan Feliden hanes o fwyngloddio a chwarela. Mae’r gwaith o fwyngloddio plwm ac arian yn dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol. Mae’r pentref yn ymddangos yn Llyfr Dydd y Farn, sy’n cyfeirio at eglwys a oedd yn bresennol mor bell yn ôl ag 1086.
Ar un adeg, chwarela a mwyngloddio oedd asgwrn cefn yr economi leol, ond roedd yn ddiwydiant cythryblus gydag anghydfodau rhwng y gweithwyr a’r perchnogion.
Daeth y gwaith o fwyngloddio plwm i ben ddiwedd yr 1800au ond parhau a wnaeth y chwarela tan ddechrau’r 1980au. Mae tystiolaeth o’r gwaith hwn i’w weld yn glir ar ochr y bryniau sy’n amgylchynu’r Shed.
Ar un adeg, arferai’r pentref ddenu twristiaid a oedd, o ganol yr 1800au, yn teithio ar hyd rheilffordd Caer i Gaergybi. Adeiladwyd y sied nwyddau ar hyd Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin Lloegr o Brestatyn i Ddyserth, sef Rheilffordd Prestatyn a Chwm. Daeth y gwasanaeth teithwyr i ben ym 1930 ond parhaodd y rheilffordd nwyddau a mwynau i redeg yma tan 1973. Mae llawer o drigolion yn dal i gofio gwylio'r pyffiau stêm wrth i'r trên redeg ar hyd y trac. Mae Meliden yn gyfoeth o hanes diddorol a bydd Y Shed yn helpu i adrodd y straeon hyn a mwy i genedlaethau’r dyfodol.
Ewch i ymweld ag arddangosfa hanes rhyngweithiol Y Shed. Rhowch gynnig ar chwarae’r gêm fwyngloddio i weld a allwch chi gyrraedd brig ein bwrdd arweinwyr!
Y Shed:
Currently open seven days a week
9.00am - 4.00pm
Y Shed Office:
Monday and Sunday - Closed
Tu Mundo Yn Y Shed:
Currently open seven days a week
9.00am - 4.00pm
Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Tu Mundo Yn Y Shed:
E-mail: manager@Tu-Mundo.co.uk
Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122
Podiatry - Lorna Hicks
Ffon - 07720 986707
E-bost - podiatryatdyffryn@btinternet.com
The Trainer Container - Tom
Gwefan - http://www.thetrainercontainer.co.uk
Rough Edge Bakehouse - Matt
Ebost - hello@roughedgebakehouse.co.uk
Gwefan - http://www.roughedgebakehouse.co.uk
Instagram - @roughedgebakehouse