MAE HEN sied rheilffordd, oedd ar ei ffordd i gael ei thraddodi i hanes, wedi agor ei drysau wedi gwaith adnewyddu gwerth £1.2 miliwn.
Pan oedd ar ei anterth, roedd sied nwyddau Gallt Melyd yn fan aros allweddol ar lein rheilffordd Dyserth i Brestatyn, oedd yn gwasanaethu’r diwydiant mwyngloddio a thwristiaeth. Caeodd y sied ar lwybr cerdded Dyserth i Brestatyn yn 1957, gan ail-agor am gyfnod byr iawn, yn fwyaf nodedig fel lleoliad busnes ymgymerwr angladdau a safle busnes tacsi.
Ond nawr, mae wedi ei hatgyfodi, gan roi’r adeilad rhestredig Gradd II yn ôl yng nghalon cymuned y pentref.
Arweinir rheolaeth yr adeilad gan y gymdeithas dai elusennol, Grŵp Cynefin a’r ‘Meliden Residents Action Group’, ac mae nawr yn cynnig cyfle i fusnesau, artistiaid a chrefftwyr newydd.
Dywedodd Mair Edwards, Rheolydd Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin: “Mae’r ymateb i’r Shed wedi bod yn anhygoel. Mae’n well na’r hyn yr oeddem ni wedi gobeithio amdano. Y nod oedd canfod ffordd o sicrhau fod yr hen adeilad hwn yn gweithio i’r gymuned. Wedi bod yn segur am amser mor faith, mae’n dipyn o gamp i fod wedi llwyddo i drawsnewid y sied nwyddau mewn modd sy’n gyfoes, ond hefyd yn cydnabod hanes cyfoethog ac amrywiol Gallt Melyd.
“Y grwp gweithredol yn y pentref gafodd y weledigaeth i wneud i hyn ddigwydd, ac rydym ni’n falch iawn o allu eu cefnogi, a throi eu breuddwyd yn wirionedd.”
Yn y prif adeilad, sydd wedi ei gynllunio i fod yn gydnaws â’r tirlun lleol, mae Caffi@ Y Shed, sy’n cael ei redeg gan chwiorydd Jane Roberts a Rachel Roberts. Mae yno hefyd ardaloedd arddangos ar gyfer crefftwyr, arddangosfa hanes, gêm mwyngloddio electronig i helpu plant ddeall sut beth oedd bywyd yn amser mwyngloddio plwm, ac ystafell gyfarfod. Mae amrywiaeth eang o artistiaid yn cynnwys crefftwr cerameg, gwneuthurwyr gemau, turniwr coed, a gwneuthurwyr cardiau wedi llenwi’r ardaloedd arddangos gyda’u cynnyrch. Bydd gweithdai, digwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu rhedeg o’r Shed yn y dyfodol.
Mae pedwar cynhwysydd llongau hefyd wedi eu hychwanegu i’r adeilad i helpu busnesau newydd. Maent yn gartref i gwmni twtio cŵn Bowwow’s Dog Company, arbenigwr ymlacio Bella Bay Wellbeing, artist lleol Susie Liddle, a’r Ganolfan Grefftau sy’n gwerthu amrywiaeth o anrhegion wedi eu cynhyrchu’n lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Cyngor Sir Ddinbych, Peter Evans, sydd yn aelod o’r Meliden Residents’ Action Group, fod Y Shed yn wahanol i unrhyw beth arall yn lleol.
“Mae cael menter fel hyn mewn pentref o faint Gallt Melyd yn dangos beth sy’n bosib ei gyflawni pan mae pobl yn bod yn benderfynol. Mae’n lle bywiog, cyffrous, wedi ei gynllunio’n hardd. Mae adeilad segur wedi ei droi’n rywbeth sy’n cynnig cyfleoedd busnes, yn cefnogi’r economi leol, yn creu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli, yn cynnig llwyfan i ddiwydiannau creadigol, ac yn adnodd addysgol ar gyfer ysgolion lleol.
“Dyma’r math o le y byddech chi fel arfer yn dod o hyd iddo mewn tref fawr neu ddinas, nid yng nghornel dawel pentref yng Nghymru. Dylai pawb sydd wedi bod yn rhan o’r fenter, p’un ai’n ymchwilio i’r hanes, yn codi arian, neu’n arwain yr ymgyrch, fod yn falch iawn o’r hyn sydd wedi ei gyflawni. Mae sefydlu menter Y Shed wedi bod yn ymdrech ar y cyd. Nid troednodyn yw’r adeilad hwn bellach, ond arwydd o ddechrau pennod newydd i economi a phobl Gallt Melyd.”
Ffordd Prestatyn i Ddyserth
Fe agorodd ffordd Prestatyn i Ddyserth fel lein tair milltir o reilffordd Caer a Chaergybi yn 1869, gan wasanaethu’r diwydiant mwynau yn bennaf drwy gario plwm a chalchfaen. Dechreuodd gwasanaeth teithwyr yn 1905 rhwng Dyserth a Phrestatyn, gyda 30,000 o bobl yn ei ddefnyddio bob blwyddyn. Caeodd y sied yn 1957, ac ail-agor am gyfnod byr iawn fel adeilad busnes, cyn cau eto. Rhedodd y rheilffordd ei hun hyd 1972. Sicrhawyd arian ar gyfer adnewyddu’r sied gan Y Gronfa Loteri Fawr Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, Gwynt y Môr, a chronfeydd ymddiriedolaeth.
Ymholiadau gan y wasg a’r cyfryngau: Rachael Wheatley, Cyd-gysylltydd Y Shed: 01745 855859/07583 059126. Rachael.wheatley@yshed.org
Gwybodaeth i'w ddod yn fuan...
Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Caffi @ Y Shed:
E-bost: caffi@yshedmeliden.com
Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122