Ers agor ei ddrysau yn 2019, mae canolfan hanesyddol rhestredig Gradd II Y Shed ym Gallt Melyd, ger Prestatyn, wedi bod yn boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr.
Er gwaethaf heriau’r pandemig, parhaodd Y Shed i fynd yn groes i’r duedd a’r llynedd croesawodd gyfartaledd o 70,000 o ymwelwyr drwy ei ddrysau. Yng nghalon yr adeilad – lle bu hen sied nwyddau rheilffordd, parlwr angladdau a warws – mae caffi sydd wedi dod yn lleoliad poblogaidd ymhlith ymwelwyr. Ond ar ôl tair blynedd a phandemig, mae’r gweithredwr caffi presennol, Rachel Roberts, yn dymuno cael mwy o amser rhydd, gan agor y drws i bobl newydd gymryd yr awenau.
“Er ein bod yn drist gweld Rachel yn mynd,” meddai Mair Edwards, Pennaeth Adfywio Cymunedol Grŵp Cynefin, “mae hwn yn gyfle cyffrous i fynd â’r sied i’r lefel nesaf. Bydd y lesddeiliad lwcus yn dod i mewn i gegin gyda chyfarpar o'r radd flaenaf, wedi'i dodrefnu'n hyfryd ac wedi'i gosod mewn ardal ragorol gyda sylfaen cleientiaid ffyddlon. Yn gyfnewid am hyn rydym yn chwilio am ddarparwr a all ddarparu bwydlen wych, coffi da a naws wych.”
Ochr yn ochr â’r caffi, mae Y Shed yn gartref i fusnesau eraill gan gynnwys siop anrhegion, podiatrydd, siop dillad chwaraeon a therapydd harddwch.
Mae oriel fewnol yn arddangos celf a chrefft gan fwy na 27 o artistiaid gwahanol, pob un ohonynt yn gwerthu trwy siop Y Shed
“Mae pob un o’r busnesau yma wedi elwa o gefnogaeth gan ein tîm mewnol, boed hynny’n gyngor marchnata neu’n help i ddod o hyd i grantiau yn ystod y pandemig. Bydd y gweithredwyr caffi newydd hefyd yn cael eu cefnogi i'w helpu i setlo a dod o hyd i'w traed - mae'n becyn sy'n wahanol i unrhyw un arall yn lleol. Mae'r rhent yn gystadleuol am gaffi o'r maint hwn ac ymhlith yr isaf yn yr ardal. Mae digonedd o gyfleoedd yma a gellid datblygu’r caffi mewn sawl ffordd,” ychwanegodd Mair.
Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw Gorffennaf 30. Am sgwrs gychwynnol ffoniwch Y Shed ar 01745 855859 neu e-bostiwch yshed@yshed.org
Gwybodaeth i'w ddod yn fuan...
Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Caffi @ Y Shed:
E-bost: caffi@yshedmeliden.com
Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122