Roedd prosiect Y Shed, yng Ngallt Melyd wedi bod ar agor am gwta naw mis pan gafodd y wlad ei heffeithio gan gyfyngiadau symud.
Mae'r adeilad rhestredig Gradd II , a oedd wedi cael trawsnewidiad gwerth £1.2 miliwn ar ôl sefyll yn wag ers blynyddoedd, yn gartref i gaffi a phedwar busnes cychwynnol. Cafodd pob un eu gorfodi i gau, gan effeithio ar y busnesau, y prosiect, a'r gymuned gyfagos.
Dan arweiniad y gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a’r Meliden Residents Action Group, roedd Y Shed wedi dod yn rhan werthfawr o fywyd y pentref .
Meddai Mair Edwards, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin: "Yn yr amser byr ers ei agor, mae’r Shed wedi meithrin busnesau newydd, wedi darparu llwyfan ar gyfer artistiaid a chrefftwyr lleol a sefydlu ei hun yng nghalon Gallt Melyd. Roedd gorfod cau’r adeilad, y caffi a’r busnesau mor ddi-rybudd yn teimlo llethol . "
Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae’r Shed wedi derbyn £ 18,100 trwy ei Grant Ychwanegol COVID-19 .
"Bydd manteision y Grant Ychwanegol Covid-19 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn bell-gyrhaeddol," meddai Mair. "Mae’n ein galluogi i ni ymdrin â cholledion incwm yn ogystal â chwrdd â chostau parhaus sy'n gysylltiedig â rhedeg a chynnal yr adeilad. Mewn cyfnod byr, roedd Y Shed a'r busnesau yno wedi adeiladu sylfaen gwych o gwsmeriaid, ac mae’r hen adeilad hyfryd hwn wedi dod yn fan cyfarfod hoffus ar gyfer y gymuned ehangach.
"Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni yma i bawb sy’n gweithio yma, yn ymweld â’r Shed neu’n defnyddio’r lle pan fydn ein cefnogi i nweud hynny. Bydd gwytnwch cymunedol yn chwarae rhan wrth helpu'r wlad i wella, a bydd lleoedd fel Y Shed yn werthfawr o ran dod â phobl at ei gilydd yn araf. ”
Dros y chwe mis nesaf, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn blaenoriaethu ceisiadau am grant ar gyfer gweithgaredd cymunedol sy'n gysylltiedig â COVID-19. I ddarganfod mwy ewch i www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/wales
Ffordd Prestatyn i Ddyserth
Agorodd y Ffordd Prestatyn i Dyserth fel rheilffordd tair milltir o reilffordd Caer a Chaergybi ym 1869 a gwasanaethodd y diwydiant mwynau gan gludo plwm a chalchfaen yn bennaf. Dechreuodd gwasanaeth teithwyr ym 1905 rhwng Dyserth a Phrestatyn gyda 30,000 o bobl yn ei ddefnyddio bob blwyddyn. Caeodd y sied ym 1957 ac ailagor, am gyfnod byr, fel adeilad busnes, cyn cau eto. Rhedodd y rheilffordd ei hun tan 1972. Sicrhawyd cyllid ar gyfer Y Shed gan Gronfa Loteri Fawr Cymru, Cyngor Sir Dinbych, Gwynt y Môr, a chronfeydd ymddiriedolaeth.
Gwybodaeth i'w ddod yn fuan...
Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Caffi @ Y Shed:
E-bost: caffi@yshedmeliden.com
Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122