Dan arweiniad y gymdeithas dai elusennol, Grŵp Cynefin a’r ‘Meliden Residents Action Group’, mae sied nwyddau segur ar y llwybr cerdded Prestatyn i Ddyserth wedi ei hail-ddatblygu’n ganolfan gymunedol.
Pan oedd ar ei hanterth, roedd sied nwyddau Gallt Melyd yn fan aros allweddol ar yr hen lein rheilffordd oedd yn gwasanaethu’r diwydiant mwyngloddio a thwristiaeth. Ond nawr, wedi prosiect pedair blynedd, mae’r adeilad rhestredig Gradd II yn lle ar gyfer busnesau, artistiaid a chrefftwyr. Mae yno hefyd gaffi, arddangosfa treftadaeth ac ystafell gyfarfod.
Agorwyd Y Shed yn swyddogol gan aelodau’r ‘Meliden Residents Action Group’ a’r Cynghorydd Sir Ddinbych Peter Evans, gan ddadorchuddio plac i gofnodi’r achlysur. Ymunodd Prif Weithredwraig Grŵp Cynefin, Shan Lloyd Williams, a Mair Edwards, y Rheolydd Mentrau Cymunedol â’r Cynghorydd Evans, ynghyd â Robert Jones sy’n hanesydd lleol.
Dywedodd y Cyng. Evans wrth y grŵp: “Pan oeddwn i’n fachgen yn chwarae yn y sied nwyddau’r holl flynyddoedd yna yn ôl, wnes i ddim dychmygu y byddwn i’n sefyll yma eto un diwrnod, yn ail-agor yr adeilad yma yn swyddogol. Mae’r ‘Meliden Residents Action Group’ a Grŵp Cynefin wedi gweithio’n galed gyda’i gilydd i wireddu breuddwydion. Mae gan Allt Melyd a’r ardal ehangach, gyfleuster y gallant fod yn falch iawn ohono.”
Croesawodd Prif Weithredwraig Grŵp Cynefin, Shan Lloyd Williams, bartneriaid prosiect a chyllidwyr i’r digwyddiad, gan gynnwys Y Gronfa Loteri Fawr.
Dywedodd: “Arwyddair Grŵp Cynefin yw ‘Mwy na Thai’, ac mae’r Shed yn dystiolaeth o hyn. Mae’r Shed yn cyflwyno buddiannau ar amryw o lefelau, gan ei bod yn cefnogi’r economi leol, yn darparu swyddi, yn galluogi busnesau i dyfu, ac yn cynnig lle croesawus i’r gymuned gynnull. Mae’n anhygoel gweld beth sy’n bosib ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth, ac mae dyfodol Y Shed yng Ngallt Melyd yn ymddangos yn ddisglair iawn.”
Dywedodd Mair, sy’n Rheolydd Mentrau Cymunedol, fod agoriad Y Shed yn achos gwirioneddol i ddathlu.
Ychwanegodd: “Y syniad wrth wraidd Y Shed oedd trawsnewid hen adeilad yn lle bywiog sy’n cynnig amryw o bethau; cyfleoedd gwirfoddoli a swyddi, y gallu i gefnogi busnesau bach, gan gynnwys artistiaid a chrefftwyr, a lle i bobl ymweld ag o er mwyn mwynhau bwyd da a dysgu am hanes cyfoethog Gallt Melyd. Mae hyn oll wedi ei gyflawni, diolch i gefnogaeth amryw o unigolion a sefydliadau.”
Cap: Mair Edwards, Shan Lloyd Williams, a’r Cyng Peter Evans yn agor Y Shed.
Ffordd Prestatyn i Ddyserth
Fe agorodd ffordd Prestatyn i Ddyserth fel lein tair milltir o reilffordd Caer a Chaergybi yn 1869, gan wasanaethu’r diwydiant mwynau yn bennaf drwy gario plwm a chalchfaen. Dechreuodd gwasanaeth teithwyr yn 1905 rhwng Dyserth a Phrestatyn, gyda 30,000 o bobl yn ei ddefnyddio bob blwyddyn. Caeodd y sied yn 1957, ac ail-agor am gyfnod byr iawn fel adeilad busnes, cyn cau eto.
Rhedodd y rheilffordd ei hun hyd 1972. Sicrhawyd arian ar gyfer adnewyddu’r Shed gan Y Gronfa Loteri Fawr Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, Gwynt y Môr, a chronfeydd ymddiriedolaeth.
Ymholiadau’r wasg a’r cyfryngau: Rachael Wheatley, Cyd-gysylltydd Y Shed: 01745 855859/07583 059126. Rachael.wheatley@yshed.org
Gwybodaeth i'w ddod yn fuan...
Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Caffi @ Y Shed:
E-bost: caffi@yshedmeliden.com
Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122