Mae apêl codi arian wedi’i lansio er mwyn adnewyddu hen sied reilffordd druenus.
Mae cynlluniau ar y gweill i drawsnewid Sied Nwyddau Meliden, adeilad rhestredig Gradd II ar y llwybr rhwng Prestatyn a Dyserth, yn ganolbwynt cymunedol gyda chaffi, canolfan dreftadaeth, cyfleuster beicio, rhandiroedd a lle i artistiaid.
Grŵp Cynefin, Cyngor Sir Dinbych a Grŵp Gweithredu Trigolion Meliden sy’n arwain y prosiect, ac mae eisoes wedi ennill cefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae cais cam 2 hefyd wedi’i gyflwyno i gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2 Loteri Fawr er mwyn gallu adnewyddu'r adeilad, sef ‘Y Shed’.
Nawr mae pwyllgor codi arian a digwyddiadau Grŵp Gweithredu Trigolion Meliden yn rhoi cyfle i bobl fod yn rhan o’r cynllun £1.2 miliwn a helpu i godi £10,000 dros y ddwy flynedd nesaf.
Meddai Mair Edwards, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin: “Mae cynigion y Shed yn gyfle gwych i drosi adeilad gwag, hanesyddol yn ased cymunedol go iawn i bobl Meliden a thu hwnt. Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill ac, wrth symud ymlaen, bydd codi arian yn rhan allweddol o'r rhain.
“Am £1 yn unig, gall pobl brynu llechen gyda’r arian yn mynd tuag at y gwaith o drwsio to’r Shed, a bydd yr holl roddion yn cael eu cydnabod ar blac unwaith y bydd y ganolfan yn agor.”
Dim ond un o nifer o fentrau codi arian yw’r prosiect ‘prynu llechen’ a drefnwyd gan y Grŵp Gweithredu sydd wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ledled Prestatyn gyda chefnogaeth ysgolion lleol gan gynnwys Ysgol Melyd, Meliden, ac Ysgol y Llys, Prestatyn.
Gall unrhyw un sydd am helpu'r apêl brynu eu llechi o Swyddfa’r Post Meliden, Ffordd Talargoch, Meliden.
Yn amodol ar gyllid, gallai gwaith adeiladu ddechrau ar y prosiect mor gynnar â Phasg 2017.
“Dim ond un o blith cyfres o fentrau codi arian sydd ar y gweill yw’r cynllun ‘prynu llechen’ a bydd y grŵp mewn nifer o ddigwyddiadau lleol dros yr ychydig fisoedd nesaf yn codi ymwybyddiaeth o gynlluniau ar gyfer Y Shed,” ychwanegodd Mair.
Gall unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan yn y prosiect gysylltu â Grŵp Cynefin ar 0300 111 2122.
Gwybodaeth i'w ddod yn fuan...
Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Caffi @ Y Shed:
E-bost: caffi@yshedmeliden.com
Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122