Mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar ganolbwynt cymunedol ac atyniad twristiaid newydd gwerth £1.2 miliwn mewn pentref yng Ngogledd Cymru.
Dros y 12 mis nesaf, bydd hen sied nwyddau ar yr hen reilffordd ym Meliden, ger Prestatyn, yn cael ei thrawsnewid ar gyfer yr 21ain ganrif.
Y gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a Grŵp Gweithredu Trigolion Meliden sy’n arwain y gwaith i ailwampio’r adeilad rhestredig Gradd II ar y llwybr cerdded rhwng Prestatyn a Dyserth.
Bydd y sied yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned a thwristiaid a fydd yn cynnwys siop, caffi, canolfan dreftadaeth, cyfleuster llogi beiciau, rhandiroedd, twnnel amser a gweithdai artistiaid, gan roi bywyd o’r newydd i'r adeilad a chreu swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli a lle ar gyfer darpar artistiaid i arddangos eu doniau.
Meddai Mair Edwards, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin: “Am 12 mlynedd, mae Grŵp Gweithredu Trigolion Meliden wedi gweithio’n ddiflino i weld yr hen sied hon yn cael ei hadfer.
“Nid yn unig y bydd hwn yn ddatblygiad sy’n cefnogi’r pentref, ond bydd yn adnodd amhrisiadwy i’r 60,000 o bobl – cerddwyr, beicwyr, a theuluoedd – sy’n defnyddio’r llwybr cerdded bob blwyddyn, gan olygu bod yr adeilad yn gyfleuster i dwristiaid hefyd.
“Bydd crefftwyr hefyd yn elwa trwy gael lle i arddangos eu nwyddau, gan gefnogi’r economi leol a chynnig gofod hanfodol ar gyfer microfusnesau.
“Mae wedi bod yn daith hir i’r rhai sy’n ymwneud â’r prosiect ond mae’r penderfyniad hwnnw i lwyddo yn talu ar ei ganfed.”
Roedd yr adeilad – sef ‘Y Shed’ i roi iddo ei enw newydd – yn rhan annatod o reilffordd tair milltir Prestatyn-Dyserth hyd nes iddo gau ym 1957, gan ailagor am gyfnod byr fel adeilad busnes cyn iddo gau eto. Mae’r gwaith i’w ailddatblygu wedi bod yn bosibl diolch i arian gan Gronfa Loteri Fawr Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, ac ymddiriedolaethau.
Meddai’r Cynghorydd Peter Evans, Cynghorydd Cyngor Sir Ddinbych dros Meliden ac aelod o bwyllgor llywio’r Shed: “Mae Meliden wedi bod yn galw allan am fenter o’r fath – un a fydd yn cynnig cyfleoedd busnes i bobl leol, yn atyniad gwerthfawr ar gyfer y llwybr cerdded poblogaidd hwn ac yn ei dro, yn cryfhau economi'r pentref.
“Mae torri’r dywarchen gyntaf yn garreg filltir bwysig gan sicrhau na fydd y sied nwyddau bellach yn ddolur llygad ar y dirwedd ond yn adnodd gwerthfawr yng nghalon ein cymuned.”
Bydd y gwaith adeiladu yn cael ei gynnal gan y contractwyr o Wrecsam, WD Stant, sydd â chefndir mewn adnewyddu adeiladau fel Y Shed.
Gwybodaeth i'w ddod yn fuan...
Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Caffi @ Y Shed:
E-bost: caffi@yshedmeliden.com
Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122