Bydd Y Shed, prosiect dan arweiniad y gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a Grŵp Gweithredu Trigolion Meliden, yn trawsnewid hen sied reilffordd segur ym Meliden, Prestatyn, yn drysor gwerthfawr i’r gymuned.
Fel rhan o’r prosiect, sydd wedi cael arian gan y Loteri, bydd yr adeilad gwag yn cael ei drawsnewid yn ganolbwynt i’r gymuned leol, gan gynnig cyfleoedd gwirfoddoli, mentergarwch, cyflogaeth a dysgu o fewn adeilad cyfoes a fydd hefyd yn cadw ei nodweddion gwreiddiol.
Bydd Y Shed yn cynnwys:
Mae’r Shed wedi’i gosod o fewn lleoliad prydferth ar ochr yr hen rheilffordd rhwng Prestatyn a Dyserth, sydd bellach yn llwybr i gerddwyr gyda 60,000 o ddefnyddwyr yn ei ddefnyddio bob blwyddyn. Mae’r prosiect partner traws-sector hwn yn cyflwyno ffordd gydlynol ac arloesol i ddarparu canolbwynt cymunedol economaidd cynaliadwy sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau i drigolion Meliden a thu hwnt.
Yn y pen draw, bydd Y Shed yn cael ei throsglwyddo i bobl Meliden i’w rhedeg fel ased cymunedol. Felly, bydd yn bwysig o’r cychwyn cyntaf i ddatblygu ac adeiladu cysylltiadau â’r gymuned. Mae llawer o bobl wedi byw yma yn Meliden ac mae llawer yn cofio’r Shed yn cael ei defnyddio mewn sawl gwahanol ffordd. Mae rhai hefyd yn cofio’r rheilffordd cyn iddi gau a dod yn llwybr cerdded. O ystyried hanes cyfoethog Y Shed a’r ardal o’i hamgylch, datblygodd y syniad o greu capsiwl amser digidol. Mae gweithio gyda phlant Ysgol Melyd yn cynnig llwyfan ar gyfer prosiect rhwng cenedlaethau gyda dinasyddion hŷn ac yn helpu i ddatblygu cymuned weithredol a chydlynol. Byddai’r plant yn recordio ac yn casglu atgofion y pentrefwyr gan ddefnyddio technoleg. Byddai hyn hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau addysgol sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm gan gynnwys TG, technegau cyfweld, casglu gwybodaeth a chreu ffilmiau.
Byddai’r prosiect rhwng cenedlaethau yn un digidol yn bennaf gyda gweithgareddau ategol petai adnoddau ac amser ar gael. Bydden ni’n gobeithio creu ffrydiau o’r prosiect sy’n addas ar gyfer gwahanol ddosbarthiadau Ysgol Melyd.
Byddai plant Ysgol Melyd yn cofnodi atgofion trigolion Meliden mewn ffilm. Byddai ymchwil cychwynnol yn helpu i nodi pobl addas a pharod i gymryd rhan, a byddai Cymdeithas Hanesyddol Meliden yn cael gwahoddiad i gymryd rhan. Byddai cymorth yn cael ei roi ar dechnegau cyfweld a’r cyfweliadau yn cael eu ffilmio ar ipads a ffonau. Gan weithio gyda chwmni cynhyrchu fel yr elusen celfyddydau cymunedol Cerddoriaeth a Ffilm Gymunedol Tape byddai’r plant yn cael help i ffilmio a golygu wrth ddatblygu sgiliau newydd.
Yn ystod y broses, byddai lluniau o’r Shed dros y blynyddoedd yn cael eu nodi ynghyd â lluniau hanesyddol sy’n cynnwys trigolion. Byddai lluniau yn cael eu hail-greu gyda thrigolion yn yr un man heddiw, gan greu oriel ‘ddoe a heddiw’ ar-lein i’w defnyddio ar wefan Y Shed, y cyfryngau cymdeithasol a gyda chysylltiadau cyhoeddus/marchnata.
Gan gysylltu â’r cwricwlwm, gellir ysgrifennu darnau ysgrifenedig o waith yn trafod hanes Y Shed/Meliden a/neu hel atgofion trigolion. Byddai hyn yn creu llyfr hanes ar-lein ar gyfer gwefan Y Shed.
Eto, yn gysylltiedig â’r cwricwlwm, gallai’r plant dynnu lluniau o drigolion lleol a’r Shed i ddarlunio’r llyfr ar-lein gan greu elfen weledol i’r prosiect.
Byddai elfennau o’r prosiect yn cael eu defnyddio mewn arddangosfa yn Y Shed gyda’r fideos yn cael eu dangos ar sgrin deledu ac oriel o luniau a gwaith celf yn cael eu harddangos.
Byddai’r holl gynnwys yn cael ei ddefnyddio ar wefan Y Shed unwaith iddo gael ei ddatblygu ac ar draws y cyfryngau cymdeithasu a llwyfannau marchnata. Byddai hyn yn creu sylw yn y cyfryngau i’r prosiect, gan helpu i godi proffil Y Shed ac Ysgol Melyd.
Byddai’r prosiect yn cael ei gynnal yn ystod tymor yr haf Ysgol Melyd sy’n digwydd rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf.
Byddai Grŵp Cynefin yn darparu aelod o staff i reoli’r prosiect a chysylltu â’r gymuned a’r ysgol a byddai’n cynorthwyo gyda nodi ffrydiau cyllid lle bo angen. Dyma gostau Cerddoriaeth a Ffilm TAPE:
1. Prosiect Ffotograffiaeth Ddoe a Heddiw:
Bydd TAPE yn gweithio gyda phobl a grwpiau o bob rhan o’r gymuned i gaffael ac ail-greu lluniau ‘Ddoe a Heddiw’. Caiff y prosiect ei ddatblygu dros 12 awr o weithdai ar y safle ym Meliden ar amseroedd i’w cytuno arnynt.Staff cyflenwi: £1040.00
Ôl-gynhyrchu: £240.00
Amser stiwdio: £200.00
Gweinyddol: £85.50 Teithio: £165.00
Cyfanswm £1530.50
2. Prosiect Ffotograffiaeth Parallax:
Bydd TAPE yn datblygu’r lluniau ‘Ddoe a Heddiw’ i ddatblygu delweddau parallax sy’n symud y gellir eu defnyddio wedi hynny i gefnogi’r prosiect ffilm rhwng cenedlaethau fel sbardunau ac i’w defnyddio yn y ffilm. Caiff y prosiect ei ddatblygu dros 4 gweithdy 2 awr ar y safle ym Meliden.Staff cyflenwi: £240.00
Ôl-gynhyrchu: £160.00
Amser stiwdio: £200.00
Gweinyddol: £27.00
Teithio: £68.20
Cyfanswm £495.203. Prosiect Ffilm Rhwng Cenedlaethau
Bydd TAPE yn gweithio gyda disgyblion Ysgol Melyd i gynhyrchu ffilm fer gan gyfweld â thrigolion ac aelodau o gymdeithas hanesyddol Meliden. Bydd disgyblion yn cael eu cefnogi i weithio gyda chyfuniad o offer darlledu camera a’u hoffer eu hunain (iPads a ffonau clyfar ac ati) i ffilmio. Yna, byddant yn cael eu cefnogi i olygu hwn yn ddarn byr. Bydd pobl ifanc yn meithrin sgiliau mewn defnyddio offer a meddalwedd digidol, yn ogystal â sgiliau cynllunio, sgiliau tîm a thechnegau cyfweld, a bydd hefyd yn rhoi hwb i’w hyder.Staff cyflenwi: £1320.00
Ôl-gynhyrchu: £480.00
Gweinyddol: £126.00
Teithio: £204.60
Cyfanswm £2130.60
Gwybodaeth i'w ddod yn fuan...
Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Caffi @ Y Shed:
E-bost: caffi@yshedmeliden.com
Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122