Galw am Sgiliau Ditectif er Mwyn Bwrw Goleuni ar Hanes Pentref

Mae hen adeilad rheilffordd segur ar y llwybr cerdded ym Meliden, Prestatyn, yn destun gwaith ail-ddatblygu gwerth £1.2 miliwn, gan drawsnewid yr adeilad gwag yn ganolbwynt cymunedol gyda chaffi, canolfan dreftadaeth, cyfleuster hurio beics ac unedau dechrau busnes.

Mae disgwyl i’r adeilad rhestredig Gradd II – sef Y Shed – agor y flwyddyn nesaf ac mae arweinwyr y prosiect, y gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a Grŵp Gweithredu Trigolion Meliden, yn awyddus i sicrhau bod y prosiect yn adlewyrchu bywyd Meliden.

Gellir arddangos hen luniau ac eitemau o’r pentref o fewn yr adeilad ac mae galw ar drigolion i helpu i ddarganfod hen drysorau hanesyddol cudd.

Meddai Mair Edwards, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin: “Mae pob un ohonom ni’n cadw hen luniau, cipluniau o fywyd teulu a phentref yr ydyn ni wedi’u tynnu ein hunain neu sydd wedi’u pasio i ni gan ein rhieni a’n neiniau a’n teidiau. Efallai fod lluniau hynod ddiddorol sy’n dangos Meliden dros y blynyddoedd yn llechu mewn rhyw hen gwpwrdd yn rhywle.

“Ond nid hen luniau yn unig rydyn ni’n chwilio amdanynt. Efallai fod hen ddillad, arteffactau, llyfrau neu eitemau yn cuddio mewn cypyrddau sy’n adrodd hanes y pentref. Bydden ni wrth ein bodd yn gweld beth allai fod yn cuddio ac felly rydyn ni’n gwahodd pobl i fore agored lle allwn ni sganio lluniau a thynnu lluniau o eitemau gyda’r gobaith o roi cartref parhaol iddynt yn Y Shed unwaith y mae’n agor.”

Amseroedd Agor

Gwybodaeth i'w ddod yn fuan...

Cysylltu â Ni

Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.

Caffi @ Y Shed:
E-bost: caffi@yshedmeliden.com

Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122

Facebook

Cyllidwyr

Lottery logo

Gwynt y Mor logo

logo Grŵp Cynefin

Denbishire Council Logo

Denbighshire Housing logo

Albert Gubay Foundationlogo

The Linbury Trust logo

Garfield Weston Foundation logo

Prestatyn Town Council logo

Meliden Residents Action Group

© 2019 Hawlfraint Y Shed. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd.

Dilyn Ni

Follow Y Shed on Twitter Like Y Shed on facebook

Rhannwch y Dudalen Hon


Polisïau

Polisi Cwcis | Polisi Preifatrwydd