Mae cynlluniau gwerth £1.2 miliwn i ailwampio hen sied reilffordd wedi cael eu cymeradwyo.
Mae Sied Nwyddau Meliden, sy’n adeilad rhestredig Gradd II ar y llwybr cerdded rhwng Prestatyn a Dyserth, gam yn nes at gael ei thrawsnewid yn ganolbwynt cymunedol gyda chaffi, canolfan dreftadaeth, cyfleuster beicio, rhandiroedd a gofod ar gyfer artistiaid.
Mae cynllunwyr Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo’r cynigion ac mae’r graffigwaith a ryddhawyd gan gwmni Creu Architecture yn Ninbych ac arweinwyr y prosiect, Grŵp Cynefin, yn dangos sut y gallai’r adeilad edrych ar ei newydd wedd.
Roedd Grŵp Gweithredu Trigolion Meliden a Grŵp Cynefin wedi sicrhau cefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr i ddatblygu’r cynigion ar gyfer yr adeilad, neu ‘Y Shed’ i roi iddo ei enw newydd. Bydd cais cyllido pellach yn cael ei gyflwyno i gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2 y Loteri Fawr ym mis Mai gan obeithio am benderfyniad erbyn mis Hydref eleni. Os bydd yn llwyddiannus, gallai'r gwaith ddechrau mor gynnar â haf 2017.
Meddai Mair Edwards, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin: “Mae Sied Nwyddau Meliden mewn lleoliad gwych a gallai ddod yn atyniad ymwelwyr arbennig ac yn adnodd cymunedol gwerthfawr yn y pen draw.
“Rydyn ni'n gwybod bod mwy na 50,000 o bobl y flwyddyn yn cerdded, yn beicio neu’n rhedeg ar hyd llinell y rheilffordd felly mae'r ardal eisoes yn boblogaidd, ac rydyn ni’n gobethio denu mwy o dwristiaid. Rydyn ni ar ben ein digon wrth sicrhau caniatâd cynllunio – ac mae’n brosiect cyffrous, un a allai weld yr adeilad hardd hwn yn cael ei adfer i'w ogoniant blaenorol.”
Mae cynlluniau eraill ar gyfer Y Shed yn cynnwys twneli amser sy'n adlewyrchu hanes mwyngloddio a chwarela cyfoethog y pentref ynghyd â hanes ei rheilffordd.
Agorodd Ffordd Prestatyn-Dyserth fel rheilffordd tair milltir o reilffordd Caer a Chaergybi ym 1869 gan wasanaethu’r fasnach fwynau a chludo plwm a chalchfaen yn bennaf. Dechreuodd gwasanaeth i deithwyr ym 1905 rhwng Dyserth a Prestatyn gyda 30,000 o bobl yn ei ddefnyddio bob blwyddyn. Caeodd y sied ym 1957 ac ailagor am gyfnod byr fel adeilad busnes cyn cau eto. Roedd y rheilffordd ei hun dal yn weithredol tan 1972.
Mae'n debygol y caiff ymgyrch codi arian ei lansio i gefnogi'r prosiect.
Meddai Cynghorydd Cyngor Sir Ddinbych Peter Evans, sy'n cynrychioli Meliden: “Mae gennym ni gyfle go iawn ym Meliden i drawsnewid yr adeilad pentref eiconig hwn a'i weld yn cael ei ddefnyddio’n helaeth er budd y gymuned a thwristiaeth.
“Mae'r cynlluniau a'r dyluniadau'n gweddu â'r ardal a’r adeilad ei hun. Mae llawer o bentrefwyr yn cofio’r rheilffordd ar waith ac edrychwn ymlaen at y diwrnod y gallwn agor drysau’r sied nwyddau unwaith eto.”
Gwybodaeth i'w ddod yn fuan...
Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Caffi @ Y Shed:
E-bost: caffi@yshedmeliden.com
Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122