Lansiodd Meg Roberts, 22 oed, sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol John Moores Lerpwl, gwmni Grumble Studios flwyddyn yn ôl ar anterth y pandemig.
Dechreuodd Meg wneud sanau wedi eu clymu a’u llifo (tie-dye) o'i chartref yn y Rhyl o dan ei brand Grumble Studios. Wrth i'r ‘busnes bwthyn’ dyfu, fe dyfodd syniadau Meg hefyd. Ychwanegodd i’r arlwy o sanau gydag amrywiaeth o hwdis a chrysau-t wedi eu clymu a’u llifo, gemwaith a nwyddau cartref.
Neidiwch ymlaen 12 mis, ac ar ôl profi ei nwyddau mewn marchnadoedd crefft yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr a thrwy siop ar-lein Etsy, mae Meg, sydd â gradd dosbarth cyntaf mewn busnes a chyllid, wedi agor ei siop gyntaf yn Y Shed yng Ngallt Melyd.
Adeilad nwyddau rheilffordd yw’r Shed, a gafodd ei drawsnewid yn dilyn syniad cychwynnol gan gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin, a Grŵp Gweithredu Preswylwyr Meliden, ddwy flynedd yn ôl. Mae yno gaffi, arddangosfa dreftadaeth, ystafell gyfarfod, lle i grefftwyr ac unedau ar gyfer busnesau newydd.
"Y Shed yw'r cam nesaf gorau i dyfu Grumble Studios," meddai Meg.
"Roeddwn i eisiau i Grumble Studios gynnig cynhyrchion disglair a beiddgar, ac yn sicr mae wedi cyflawni hynny. Yn fy mlwyddyn gyntaf, rydw i wedi gwerthu 3,000 o eitemau trwy Etsy yn unig. Rydw i wedi bod yn greadigol erioed, a dechreuais fy musnes cyntaf pan oeddwn i’n 14 oed yn gwerthu gemwaith ar-lein.
"Mae’r Shed yn teimlo fel lle da i ddechrau, gyda siop mewn lleoliad mor unigryw â fy musnes. Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn ddi-stop; mae gen i bresenoldeb ar-lein amlwg erbyn hyn; presenoldeb digon amlwg i ysgogi dylanwadwyr ffasiwn blaenllaw i fod eisiau cael eu gweld yn gwisgo fy nyluniadau. Agor siop yw'r eisin ar y gacen. "
“Grumble” yw’r enw Saesneg am grŵp o gŵn Pugg, ac mae tri chi Meg - Buddy, Bea, a Winnie - fel arfer wrth ei hochr pan fydd hi'n clymu a llifo gartref. Mae'r galw am ddillad Meg mor uchel, mae hi wedi gosod bath ail-law yng ngardd gefn tŷ ei rhieni i helpu i ateb y galw am y dillad clymu a llifo llachar.
"Mae mam a dad wedi bod yn gefnogol iawn," ychwanegodd Meg. "Mae fy ngwaith clymu a llifo yn llenwi’r ty, ac mae dad wedi bod yn treulio ei benwythnosau a’i gyda'r nosau i wneud cownter ac arddangosfeydd i mi ar gyfer y siop, yn ogystal â fy nghefnogi mewn marchnadoedd penwythnos.
"Mam yw fy ysbrydoliaeth - cychwynnodd ei meithrinfa ei hun pan oedd yn 23 felly, fel teulu, mae gennym ysbryd entrepreneuraidd cryf. Fe wnaeth Grumble ddechrau yn ystod y cyfnod clo gyda gwerthiant ar-lein yn llwyddiant ysgubol. Mae'r siop yn teimlo fel cam nesaf naturiol i mi, ac wedi'i dargedu at bobl sy'n hoffi siopa mewn siop go iawn. "
Mae dillad hynod Meg eisoes wedi cael sylw gan brif ddylanwadwyr ffasiwn Instagram gan roi hwb i'w delwedd ar-lein. Mae manwerthwyr mawr, gan gynnwys brand dillad anferth ar-lein ASOS hefyd yn gwerthu ei dillad. O ganlyniad, mae galw mawr am hwdis clymu a llifo Meg ledled y byd ac maen nhw hyd yn oed wedi cael eu cludo i Dde Korea. Bydd agoriad stiwdio Gallt Melyd yn cael ei ddilyn mewn pythefnos gan arddangosfa adwerthu ‘pop-up’ yn siop Siapaneaidd ei naws, Kenji, yn Lerpwl.
Busnesau fel Grumble Studios, meddai Mair Edwards, Pennaeth Adfywio Cymunedol Grŵp Cynefin, sy'n gweddu’n berffaith i’r Shed.
Meddai Mair: "Mae’r Shed a Grumble Studios yn cydweddu’n wych. Mae'r ddau yn feiddgar ac yn uchelgeisiol ac yn gwneud eu marc yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Lansiwyd Y Shed i helpu busnesau newydd gyda phecyn cofleidiol sy’n cynnwys lleoliad fforddiadwy a chymorth busnes a marchnata yn fewnol am ddim i'w helpu i gychwyn.
“Y syniad yw cefnogi busnesau i dyfu ac ehangu a gwneud lle i fusnes newydd arall gychwyn ar eu taith. Agor y siop yw'r cam nesaf i Grumble Studios, ychwanegiad teilwng iawn i'r tîm yn Y Shed. "
Mae Grumble Studios, sydd wedi ei leoli yn y mesanîn i fyny’r grisiau yn Y Shed, yn gwerthu popeth o ddillad i emwaith, canhwyllau, cwyr toddi, nwyddau cartref unigryw eraill, ac ystod o gardiau a ddyluniwyd neu a wnaed gan Meg ei hun. Mae Grumble Studios ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul o 9.30am.
Gwybodaeth i'w ddod yn fuan...
Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Caffi @ Y Shed:
E-bost: caffi@yshedmeliden.com
Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122