MAE ATHLETWR ELIT a drechodd chwedl Olympaidd Syr Mo Farah yn newid cyflymder drwy lansio busnes newydd.
Mae Tom Carter o Abergele yn gyn redwr pellter canolig dros Prydain Fawr, ac mae wedi agor y Trainer Container lle mae’n yn gwerthu nwyddau ‘On’, sef brand newydd o esgidiau rhedeg o’r Swistir, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddillad chwaraeon cynaliadwy gan Vinyl Bear o Wrecsam.
Mae’r Trainer Container, sydd wedi’i leoli yn Y Shed, Gallt Melyd, yn un o dri busnes newydd a sefydlwyd yno yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae’r therapydd harddwch Johannah Hughes a'r podiatrydd Lorna Hicks yn ymuno â Tom yn y gofodau busnes wedi eu gwneud o gynhwysyddion llongau wedi'u trawsnewid.
Rhoddodd Tom, a gurodd yr enwog Syr Mo mewn ras Grand Prix, y gorau i redeg ar ôl cyflawni ei nod o gwblhau milltir mewn llai na phedwar munud. Mae Tom, sy’n athro chwaraeon cymwysedig ac yn fab i’r redwr Olympaidd a phencampwr 800m Andy Carter, yn awyddus i drosglwyddo ei wybodaeth i redwyr eraill. Nid yn unig y bydd yn cyflwyno esgidiau rhedeg i’w trio cyn neu prynu sy’n galluogi cwsmeriaid i redeg allan yn yr esgidiau, ond bydd yn cynnal noson holi ac ateb Y Shed ar gyfer rhedwyr o bob gallu, yn ogystal â chynnal ras yn Marsh Tracks, Rhyl.
“Mae Y Shed wedi rhoi hwb gwych i mi ddechrau fy musnes newydd,” meddai Tom, a fethodd o drwch blewyn gael lle yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.
“Mae On yn frand newydd ac rwy'n hoff iawn o'u hethos. Rwy'n awyddus i adeiladu cymuned redeg yma, un sy'n cefnogi ac yn helpu ein gilydd. Does dim llawer ers pan ydw i wedi symud i’r Shed ond mae busnes yn prysuro’n barod ac mae rhedwyr a chlybiau rhedwyr wedi rhoi croeso cynnes i mi.”
Mae Y Shed yn brosiect a hyrwyddir gan y gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a Grŵp Gweithredu Preswylwyr Gallt Melyd. Fe agorodd ei ddrysau yn 2019 ac, er gwaethaf cyfyngiadau’r pandemig, mae wedi llwyddo i barhau i ddenu tua 40,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
I Tom, Johannah, a Lorna, roedd ymdeimlad Y Shed o gymuned yn dynfa fawr. Mae Y Shed wedi’i anelu at fusnesau newydd neu fusnesau sy’n tyfu ac wedi ei leoli ar y rheilffordd o Brestatyn i Ddyserth. Mae’r fenter yn rhoi cymorth i fasnachwyr sefydlu eu busnesau yn llwyddiannus gyda rhenti fforddiadwy, cymorth busnes am ddim gan gynnwys cefnogaeth marchnata, a grant cychwyn busnes i’w wario ar eu busnes.
Mae’r therapydd harddwch Johannah, o Ruddlan, wedi bod yn rhannu gofod gyda’i merch yn ei busnes trin gwallt ym Mhrestatyn ond, ar ôl 20 mlynedd yn y busnes a chyda niferoedd y cwsmeriaid yn tyfu, penderfynodd ehangu i’w lleoliad ei hun. Roedd y podiatrydd, Lorna, o Ddyserth, hefyd wedi bod yn rhannu gofod, ond roedd eisiau datblygu clinig a fyddai’n caniatáu iddi ddefnyddio ei hystod lawn o sgiliau a therapïau newydd. Mae’r ddwy yn dod â sylfaen gadarn o gleientiaid gyda nhw fydd, yn eu tro, hefyd yn gwneud y mwyaf o gynigion eraill Y Shed, gan gynnwys y caffi a’r siopau anrhegion.
Dywedodd Johannah: “Bob dydd, mae'n rhaid i mi binsio fy hun. Mae’r Shed nid yn unig yn y lleoliad mwyaf rhyfeddol gyda golygfeydd hyfryd, ond mae’r gefnogaeth a gynigir yn wych. Mae'r unedau hyn yn ddelfrydol ar gyfer busnesau bach. Rwyf wrth fy modd yn gwneud i bobl deimlo ar eu gorau, a nawr gallaf wneud hynny mewn lle gwych."
Dywedodd Lorna, sydd â dros 30 mlynedd o brofiad mewn gwneud diagnosis a rheoli problemau traed ac aelodau isaf, fod synergedd braf rhwng y tri chwmni newydd. A hithau wedi’i lleoli drws nesaf i Tom, dywedodd Lorna: “Mae gorgyffwrdd rhwng fy ngwybodaeth am fecaneg traed a symudiad dynol sy’n cysylltu’n dda gydag esgidiau rhedeg ‘On’ newydd Tom, tra bydd rhai o’m cleifion i yn dewis sbwylio eu hunain gyda gofal harddwch unigryw gan Johannah. O'r cychwyn cyntaf, roeddem i gyd eisiau helpu ein gilydd gan fod rhywfaint o gydberthynas naturiol rhwng ein busnesau. Rwy’n gyffrous i fod yn gweithio ochr yn ochr â nhw.”
Nod Y Shed erioed fu hybu busnesau newydd, gan eu galluogi i ehangu a symud ymlaen. Roedd y siopwyr cŵn, Bow Wow’s, yn enghraifft wych, ar ôl datblygu cymaint ar ei sylfaen cleientiaid, mae bellach wedi symud i lawr y trac i safle mwy yn Nyserth lle maen nhw bellach hefyd yn cynnig gofal cŵn am y dydd.
Dywedodd Mair Edwards, Pennaeth Adfywio Cymunedol Grŵp Cynefin, fod y tri entrepreneur newydd yn gaffaeliad gwirioneddol i’r Shed.
“Mae Y Shed ar lwybr Prestatyn-Dyserth sy’n denu degau o filoedd o gerddwyr, rhedwyr a beicwyr bob blwyddyn. Felly, mae’n wych cael tri busnes cyflenwol ar y safle a all gefnogi’r gweithgareddau hynny. Y bwriad erioed fu helpu busnesau a masnachwyr unigol yn y gobaith y byddant yn datblygu sylfaen gadarn o gwsmeriaid. Mae'n dweud llawer am Y Shed a'i enw da fod y tair uned eu bachu mewn ychydig amser. Er gwaethaf popeth, gan gynnwys cyfnodau o fod ar gau, bu i’r Shed groesawu mwy na 40,000 o bobl drwy ei ddrysau – mae Y Shed yn lleoliad llewyrchus.”
Bydd Tom, Lorna, a Johannah yn cynnal wythnos ‘cwrdd â’r busnesau’ ym mis Mawrth gydag amrywiaeth o weithgareddau ar y gweill. Cynhelir y digwyddiad rhwng 17-20 Mawrth a bydd yn cynnwys holl fusnesau Y Shed, gan gynnwys siop anrhegion Grumble Studios.
Yr amserlen yw:
Mawrth 17 Cyfarfod â'r podiatrydd Lorna Hicks a thrafod eich anghenion iechyd traed
Mawrth 18 Bydd Johannah Hughes o Exclusive Beauty yn rhannu awgrymiadau da
Mawrth 19 Tips rhedeg a mwy gyda Tom Carter
Mawrth 20 Cewch eich ysbrydoli gan anrhegion i’r cartref, i ffrindiau neu dim ond chi gyda Meg Roberts o Grumble Studio
Llwybr Prestatyn i Dyserth
Agorodd y Ffordd Prestatyn i Dyserth fel rheilffordd tair milltir o reilffordd Caer a Chaergybi ym 1869 a gwasanaethodd y diwydiant masnachu mwynau gan gludo plwm a chalchfaen yn bennaf. Dechreuodd gwasanaeth teithwyr ym 1905 rhwng Dyserth a Phrestatyn gyda 30,000 o bobl yn ei ddefnyddio bob blwyddyn. Caeodd y sied yn 1957 ac ail-agorodd am gyfnod byr fel safle busnes cyn cau eto. Rhedodd y rheilffordd ei hun tan 1972. Sicrhawyd cyllid ar gyfer Y Shed gan Gronfa Loteri Fawr Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, Gwynt y Môr, a chronfeydd ymddiriedolaeth.
Ymholiadau'r wasg a'r cyfryngau: Rachael Wheatley, Cydlynydd Y Shed: 01745 855859 / 07583 059126. Rachael.wheatley@yshed.org
Gwybodaeth i'w ddod yn fuan...
Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.
Caffi @ Y Shed:
E-bost: caffi@yshedmeliden.com
Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122