Y Shed Stories top photo

Straeon Y Shed

Newid ar y Fwydlen

Mae newid ar y fwydlen ar gyfer y ganolfan gymunedol boblogaidd hon.

Ers agor ei ddrysau yn 2019, mae canolfan hanesyddol rhestredig Gradd II Y Shed ym Gallt Melyd, ger Prestatyn, wedi bod yn boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr.

Er gwaethaf heriau’r pandemig, parhaodd Y Shed i fynd yn groes i’r duedd a’r llynedd croesawodd gyfartaledd o 70,000 o ymwelwyr drwy ei ddrysau. Yng nghalon yr adeilad – lle bu hen sied nwyddau rheilffordd, parlwr angladdau a warws – mae caffi sydd wedi dod yn lleoliad poblogaidd ymhlith ymwelwyr. Ond ar ôl tair blynedd a phandemig, mae’r gweithredwr caffi presennol, Rachel Roberts, yn dymuno cael mwy o amser rhydd, gan agor y drws i bobl newydd gymryd yr awenau.

 

Darllen Mwy

AR EICH MARCIAU, BAROD... BUSNESAU NEWYDD YN CAEL DECHRAU DA

MAE ATHLETWR ELIT a drechodd chwedl Olympaidd Syr Mo Farah yn newid cyflymder drwy lansio busnes newydd.

Mae Tom Carter o Abergele yn gyn redwr pellter canolig dros Prydain Fawr, ac mae wedi agor y Trainer Container lle mae’n yn gwerthu nwyddau ‘On’, sef brand newydd o esgidiau rhedeg o’r Swistir, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddillad chwaraeon cynaliadwy gan Vinyl Bear o Wrecsam.

 

Darllen Mwy

CLYMU A LLIFO YN LLWYDDIANT LLIWGAR! BUSNES PANDEMIG YN LLYGADU’R CYFLE I EHANGU

Mae merch fusnes a ddechreuodd fusnes yn ystod y pandemig COVID-19 wedi agor ei siop gyntaf.

Lansiodd Meg Roberts, 22 oed, sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol John Moores Lerpwl, gwmni Grumble Studios flwyddyn yn ôl ar anterth y pandemig.

Dechreuodd Meg wneud sanau wedi eu clymu a’u llifo (tie-dye) o'i chartref yn y Rhyl o dan ei brand Grumble Studios. Wrth i'r ‘busnes bwthyn’ dyfu, fe dyfodd syniadau Meg hefyd. Ychwanegodd i’r arlwy o sanau gydag amrywiaeth o hwdis a chrysau-t wedi eu clymu a’u llifo, gemwaith a nwyddau cartref.

 

 

Darllen Mwy

MAE SIED REILFFORDD y pentref yn ôl ar y trywydd iawn ar gyfer llwyddiant busnes

Roedd Y Shed yng Ngallt Melyd - canolbwynt cymunedol sy'n darparu lle i fusnesau, artistiaid a chrefftwyr - wedi bod ar agor ers ychydig fisoedd yn unig pan orfododd pandemig Coronafirws iddo gau dros dro.

Denodd yr hen adeilad rheilffordd a drawsnewidiwyd, sy'n gartref i fusnesau annibynnol, siop a chaffi, filoedd o ymwelwyr yn ystod ei ychydig fisoedd cyntaf.

Roedd y cau gorfodol yn ergyd i bawb yn Y Shed, prosiect a hyrwyddwyd gan y gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a’r Meliden Residents Action Group.

 

Darllen Mwy

Mae prosiect CYMUNEDOL a gafodd ei daro gan bandemig Coronavirus wedi cael hwb gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Roedd prosiect Y Shed, yng Ngallt Melyd wedi bod ar agor am gwta naw mis pan gafodd y wlad ei heffeithio gan gyfyngiadau symud.

Mae'r adeilad rhestredig Gradd II , a oedd wedi cael trawsnewidiad gwerth £1.2 miliwn ar ôl sefyll yn wag ers blynyddoedd, yn gartref i gaffi a phedwar busnes cychwynnol. Cafodd pob un eu gorfodi i gau, gan effeithio ar y busnesau, y prosiect, a'r gymuned gyfagos.

Dan arweiniad y gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a’r Meliden Residents Action Group, roedd Y Shed wedi dod yn rhan werthfawr o fywyd y pentref.

 

Darllen Mwy

MAE HEN sied rheilffordd segur, a gafodd ei thrawsnewid wedi gwaith adnewyddu gwerth £1.2 miliwn, wedi ei hagor yn swyddogol gan gynghorydd a fu’n chwarae ynddi pan oedd yn fachgen.

Dan arweiniad y gymdeithas dai elusennol, Grŵp Cynefin a’r ‘Meliden Residents Action Group’, mae sied nwyddau segur ar y llwybr cerdded Prestatyn i Ddyserth wedi ei hail-ddatblygu’n ganolfan gymunedol.

Pan oedd ar ei hanterth, roedd sied nwyddau Gallt Melyd yn fan aros allweddol ar yr hen lein rheilffordd oedd yn gwasanaethu’r diwydiant mwyngloddio a thwristiaeth. Ond nawr, wedi prosiect pedair blynedd, mae’r adeilad rhestredig Gradd II yn lle ar gyfer busnesau, artistiaid a chrefftwyr. Mae yno hefyd gaffi, arddangosfa treftadaeth ac ystafell gyfarfod.

 

Darllen Mwy

ADEILAD A ALWYD YN ‘DROEDNODYN HANESYDDOL’ YN DECHRAU PENNOD NEWYDD

Pan oedd ar ei anterth, roedd sied nwyddau Gallt Melyd yn fan aros allweddol ar lein rheilffordd Dyserth i Brestatyn, oedd yn gwasanaethu’r diwydiant mwyngloddio a thwristiaeth. Caeodd y sied ar lwybr cerdded Dyserth i Brestatyn yn 1957, gan ail-agor am gyfnod byr iawn, yn fwyaf nodedig fel lleoliad busnes ymgymerwr angladdau a safle busnes tacsi.

Ond nawr, mae wedi ei hatgyfodi, gan roi’r adeilad rhestredig Gradd II yn ôl yng nghalon cymuned y pentref.

 

Darllen Mwy

Prosiect Pentref yn dod â Hanes yn Fyw

Bydd cymuned bentref yn camu yn ôl mewn hanes mewn ymgais i ddiogelu ei hanes ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin yn chwilio am bobl i ymuno â phrosiect ffilm newydd sbon a fydd yn dod â hanes pentref Meliden, Prestatyn, yn fyw.

Daw’r prosiect yn sgil gwaith gwerth £1.4 miliwn i ailwampio cyn adeilad rheilffordd y pentref, sef ‘Y Shed’.

 

Darllen Mwy

Grŵp Cynefin, Ysgol Melyd a’r Shed: Prosiect Rhwng Cenedlaethau

Bydd Y Shed, prosiect dan arweiniad y gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a Grŵp Gweithredu Trigolion Meliden, yn trawsnewid hen sied reilffordd segur ym Meliden, Prestatyn, yn drysor gwerthfawr i’r gymuned.

Fel rhan o’r prosiect, sydd wedi cael arian gan y Loteri, bydd yr adeilad gwag yn cael ei drawsnewid yn ganolbwynt i’r gymuned leol, gan gynnig cyfleoedd gwirfoddoli, mentergarwch, cyflogaeth a dysgu o fewn adeilad cyfoes a fydd hefyd yn cadw ei nodweddion gwreiddiol.

 

Darllen Mwy

Galw am Sgiliau Ditectif er Mwyn Bwrw Goleuni ar Hanes Pentref

Mae hen adeilad rheilffordd segur ar y llwybr cerdded ym Meliden, Prestatyn, yn destun gwaith ail-ddatblygu gwerth £1.2 miliwn, gan drawsnewid yr adeilad gwag yn ganolbwynt cymunedol gyda chaffi, canolfan dreftadaeth, cyfleuster hurio beics ac unedau dechrau busnes.

Mae disgwyl i’r adeilad rhestredig Gradd II – sef Y Shed – agor y flwyddyn nesaf ac mae arweinwyr y prosiect, y gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a Grŵp Gweithredu Trigolion Meliden, yn awyddus i sicrhau bod y prosiect yn adlewyrchu bywyd Meliden.

 

Darllen Mwy

Gwaith yn dechrau ar brosiect £1.2 miliwn i ailwampio rheilffordd

Mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar ganolbwynt cymunedol ac atyniad twristiaid newydd gwerth £1.2 miliwn mewn pentref yng Ngogledd Cymru.

Dros y 12 mis nesaf, bydd hen sied nwyddau ar yr hen reilffordd ym Meliden, ger Prestatyn, yn cael ei thrawsnewid ar gyfer yr 21ain ganrif.

Y gymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a Grŵp Gweithredu Trigolion Meliden sy’n arwain y gwaith i ailwampio’r adeilad rhestredig Gradd II ar y llwybr cerdded rhwng Prestatyn a Dyserth.

 

Darllen Mwy

Cymeradwyo Cynlluniau gwerth £1.2 miliwn i ailwampio sied

Mae cynlluniau gwerth £1.2 miliwn i ailwampio hen sied reilffordd wedi cael eu cymeradwyo.

Mae Sied Nwyddau Meliden, sy’n adeilad rhestredig Gradd II ar y llwybr cerdded rhwng Prestatyn a Dyserth, gam yn nes at gael ei thrawsnewid yn ganolbwynt cymunedol gyda chaffi, canolfan dreftadaeth, cyfleuster beicio, rhandiroedd a gofod ar gyfer artistiaid.

 

Darllen Mwy

Lansio Cais Codi Arian ar gyfer Prosiect Y Shed

Mae apêl codi arian wedi’i lansio er mwyn adnewyddu hen sied reilffordd druenus.

Mae cynlluniau ar y gweill i drawsnewid Sied Nwyddau Meliden, adeilad rhestredig Gradd II ar y llwybr rhwng Prestatyn a Dyserth, yn ganolbwynt cymunedol gyda chaffi, canolfan dreftadaeth, cyfleuster beicio, rhandiroedd a lle i artistiaid.

 

Darllen Mwy

Amseroedd Agor

Gwybodaeth i'w ddod yn fuan...

Cysylltu â Ni

Y Shed:
Ffôn: 01745 855859
E-bost: yshed@grwpcynefin.org
Cyfeiriad: Y Shed, Pen y Maes, Meliden, Prestatyn, Ll19 8PY
I gael cyfarwyddiadau, cliciwch yma.

Caffi @ Y Shed:
E-bost: caffi@yshedmeliden.com

Tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin
Ffôn: 0300 111 2122

Facebook

Cyllidwyr

Lottery logo

Gwynt y Mor logo

logo Grŵp Cynefin

Denbishire Council Logo

Denbighshire Housing logo

Albert Gubay Foundationlogo

The Linbury Trust logo

Garfield Weston Foundation logo

Prestatyn Town Council logo

Meliden Residents Action Group

© 2019 Hawlfraint Y Shed. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd.

Dilyn Ni

Follow Y Shed on Twitter Like Y Shed on facebook

Rhannwch y Dudalen Hon


Polisïau

Polisi Cwcis | Polisi Preifatrwydd